Skip to content ↓

Rhifau Rhagorol (Cymraeg)

Rhifau Rhagorol Ar-lein

Eisioes, mae aelodau o ddosbarthiadau Blwyddyn 1 i 6 wedi arfer gwneud profion Rhifau Rhagorol bob dydd Gwener. Tri prawf gwahahnol sydd: CLIC (sgiliau rhifedd pur), SAFE (Shape, Amounts, Fractions and Explaining) a Beat That (mathemateg pen).

Unwaith bob wythnos, bydd gofyn i bob disgybl gwneud eu profion ar lein.

Cam 1

Google - Big Maths online

Cam 2

Pin Ysgol: 1279

Cam 3

Enw defnyddiwr: ebost HWB (heb yr @hwbcymru.net)

Cam 4

Cyfrinair: yr un peth a'u cyfrinair HWB

Cam 5

Dewis y prawf yr hoffech wneud 1af a ffwrdd a chi. (Mae'r profion SAFE a CLIC Cymraeg ar gael ar waelod y dudalen os ydych plentyn yn teimlo’n hyderus i wneud trwy’r Gymraeg.)

Cam 6 PWYSIG! Bydd angen papur a phensil ar eich plentyn er mwyn iddynt allu cyfrifo a gwirio cyn rhoi'r atebion yn y blychau.

Profion CLIC a SAFE (1-5)

Os welwch chi’r negeseuon yma ar y sgrin “Your teacher will help you with this challenge”, mae’n golygu bod eich plentyn yn gweithio ar bofion 1 i 5.

CLIC

MAE'R PROFION YMA YN CAEL EU GWEITHREDU GYDAG OEDOLYN GAN DDEFNYDDIO'R PRAWF A'R SGRIPT - NID YW PROFION 1-5 YN CAEL EU GWNEUD AR WEFAN BIG MATHS ONLINE.

SAFE

DOES DIM TAFLEN CWESTIYNAU/ATEBION AR GYFER Y CAM YMA. YN LLE, GOFYNNWCH Y CWESTIYNAU SYDD YN Y SGRIPT YN YSTOD GWEITHGAREDDAU YMARFEROL.

 

Ar wefan yr ysgol, mae yna gopiau o brofion 1-5, CLIC a SAFE, ynghyd â sgript y gallwch ddefnyddio er mwyn gweithredu’r prawf gyda eich plentyn. Yn yr un ffordd a phrofion 6+, gallwch ddarllen y sgript, ond ceisiwch peidio helpu gyda’r fathemateg yn ystod y prawf.

 

Cofiwch annog eich plentyn i drio eu gorau glas. Hoffwn yn fawr i chi fel rhieni i beidio helpu, ar whahan i ddarllen y cwestiynau. Wrth i’ch plentyn gwneud y profion, gallwch eistedd gyda nhw a gwneud nodiadau o’r hyn sydd yn anodd iddynt ac ymarfer y sgiliau yma ymhellach.

Ebost Wythnosol

Ar ôl y Prawf

Erbyn prynhawn dydd Llun, fe fydd eich plentyn wedi derbyn ebost fydd yn cynnwys canlyniadau’r prawf CLIC. Fe fydd e’n edrych fel hyn:

Pecyn Cefnogi Rhieni

Yn yr e-bost fe welwch lefel CLIC eich plentyn (o 1 i 20) . Yn yr enghraifft yma, mae'r plentyn ar CLIC 11 felly dyma’r Pecyn Cefnogi y mae angen i chi ei ddefnyddio. Mae’r rhifau yn yr ebost yn cyd fynd â’r cwestiynau CLIC. Felly, os mae 4 yn goch, cerwch ati i ymarfer cwestiwn 4 o’r pecyn ymarfer.

 

Os maen nhw i gyd yn wyrdd, mae eich plentyn yn barod i ddechrau ymarfel y lefel nesaf.

 

  • Wedi i chi ddewis y pecyn mae’n hawdd. Mae 10 rhan i bob pecyn, un ar gyfer pob cwestiwn
  •  
  • Gyda phob un o’r cwestiynau, mae:
  • Eglurhâd o’r dull
  • Taflen dysgu wrth ail-adrodd
  • Cwestiynau er mwyn defnyddio’r dull mewn cyd-destun

 

Profion CLIC a Sgriptiau 1 - 5

SAFE 1-5 Sgriptiau Athrawon a Rhieni DOES DIM TAFLEN CWESTIYNAU/ATEBION AR GYFER Y CAM YMA. YN LLE, GOFYNNWCH Y CWESTIYNAU SYDD YN Y SGRIPT YN YSTOD GWEITHGAREDDAU YMARFEROL.

Pecynau Rhieni - Sut Gallaf Helpu fy Mhlentyn?