Ar ran holl staff Ysgol Gymraeg Pen-y Groes hoffwn eich croesawu yn gynnes i ein gwefan newydd! Mae Ysgol Gynradd Gymraeg Pen-y-Groes yn gymuned ddysgu lwyddiannus sy’n dathlu Cymreictod, amrywiaeth a chyflawniad pob un disgybl. Mae’r holl staff yn ymrwymo i sicrhau ansawdd uchel o ofal a lles disgyblion ar draws yr ysgol, mewn awyrgylch dysgu cartrefol a chefnogol. Mae hyn yn dylanwadu’n gryf ar agweddau’r disgyblion tuag at ei gilydd ac at bobl eraill o fewn a thu hwnt i’r ysgol. Yn ogystal, mae’r arferion cryf o ran gofalu am les disgyblion yn cael effaith gadarnhaol iawn ar eu hunanhyder a’u hagwedd at fywyd yn gyffredinol.
On behalf of the staff and myself I would like to warmly welcome you to our new website! Ysgol Gynradd Gymraeg Pen-y-Groes is a successful learning community that celebrates every pupils’ Welshness, diversity and achievement. All staff are committed to ensuring high quality care and well-being for pupils across the school in a homely and supportive environment. This has a strong influence on pupils’ attitudes towards each other and other people both within and outside the school. Strong practices in terms of caring for pupils’ well-being also have a very positive effect on their self-confidence and attitude to life in general.
Mrs. A Fenner - Pennaeth/Headteacher